Stryd Fawr / High Street, Y Bala, Gwynedd, North Wales, LL23 7AB
info@yplascoch.com
01678 520309
Digwyddiadau
Pam ddim dathlu Priodas neu achlysur arall yn Y Plas Coch.
Wedi ei leoli yn nghanol Bala mae’n le perffaith os byddwch chi neu eich gwesteion yn dymuno aros draw yn yr ardal
cyn neu ar ôl y digwyddiadau i fwynhau beth sydd gan Eryri i’w gynnig. Byddwn yn darparu yr ystafell a’r cyfleusterau a
bydd ein staff gofalus yn sicrhau ei fod yn ddigwyddiad i’w gofio.
Mae yma ystafell gyfarfod helaeth ar gael a bydd ein cogyddion yn gallu paratoi bwyd sy’n amrywio o fwffe syml i bryd tri chwrs.
Dathlwch eich priodas, penblwydd, bedydd, neu unrhyw ddigwyddiad yma yn Y Plas Coch. Os oes gennych barti mawr byddwn yn gallu
darparu pabell i ddathlu eich digwyddiad arbennig.
Os bydd unrhyw un o’ch gwesteion yn dymuno aros draw mae gennym ddigonedd o ystafelloedd i’r gwesteion sy’n mynychu eich
achlysur arbennig. Rhowch alwad ffôn i ni ar 01678 520 309 i ddechrau paratoi eich achlysur arbennig.
Llogi Pabell / Bar
Be am ddefnyddio ein gardd gefn neu faes parcio eleni er mwyn llogi ein pabell ar gyfer fwy o le ac eich amddiffyn o’r tywydd.
Rydym yn cynyddu ein defnydd o’r lle tu allan ar gyfer digwyddiadau cerddorol, barbeciw, priodasau, discos a dawns. Mae hyn yn
galluogi i ni ddefnyddio ein lle tu allan trwy gydol y flwyddyn a gwneud yn siwr bod chi’n cael yr amser gorau yn ein cwmni!
I logi’r bar neu’r babell, cysylltwch efo Iwan neu Elen nawr ar 07880 944873 neu 07786 733422.