Rheilffordd Llyn Tegid
Dylai unrhyw un sy’n frwdfrydig am drenau fynd ar daith ar Reilffordd Lein Fach Llyn Tegid.
Golff
Mae gan Y Bala gwrs naw twll gyda golygfeydd gwych. Mae prisiau rhatach ar gael i’n gwesteion.
Cerdded
Mae yma nifer o lwybrau cerdded yn yr ardal sy’n cynnwys rhai ar y Berwyn a’r Aran. Cyngor ar gael ar lwybrau cerdded wrth ofyn.
Pysgota
Gallwn gysylltu gyda pysgotwyr lleol i gael cyngor ac awgrymiadau.
Mae yno gestyll, amgueddfeydd, ac amryw o atyniadau twristiaeth ger llaw.
Gwybodaeth:
Canolfan Wybodaeth - 01678 521021 - bala.tic@gwynedd.gov.uk
Canolfan Hamdden - 01678 521222
Warden Llyn Tegid - 01678 520626
Clwb Peldroed Tref Y Bala - www.balatownfc.co.uk
Clwb Hwylio’r Bala - 01678 520118 - www.balasc.org.uk
Clwb Golff Y Bala - 01678 520359
Bowlio Deg - 01678 540444
Canolfan Dwr Gwyn Cenedlaethol - 01678 521083
Bala Adventure & Water Sports Centre - 01678 521059
www.balaadventureandwatersportscentre.co.uk - balawatersports@compuserve.com
LANDCRAFT Off Road Tuition & Driving Centres - www.landcraft4x4.co.uk
david@landcraft4x4.co.uk - 01678 520820
Atyniadau
Mae Y Bala yn llawn o wahanol weithgareddau awyr agored. Afon Tryweryn oedd lleoliad pencampwriaethau canwio’r byd,
a gallwch chithau gael y cyfle i brofi rafftio ar yr afon yma gan y ganolfan wych.
Mae yma Glwb Hwylio ar Lyn Tegid (gwelwch isod ar gyfer modd i gysylltu) a hefyd Ganolfan Gweithgareddau Dwr (gwybodaeth
cyswllt Bala Adventure and Watersports Centre isod). Mae amryw o bobl yn trafeilio o bell i ddefnyddio’r llyn i hwylfyrddio. Mae’r
Bala yn ymfalchio yn y Ganolfan Canwio a Rafftio Dwr Gwyn sydd o safon uchel ac wedi ei lleoli ar yr Afon Tryweryn. Mae’r Afon
Ddyfrdwy yn enwog am bysgota plu a mae yno gyfleoedd i saethu clai. Cerdded ydi’r gweithgaredd mwyaf poblogaidd a does ryfedd
pan y mae cyfoeth o gefn gwlad prydferth ar gael. Mae yna hefyd gyfleoedd i ddringo’r mynyddoedd gerllaw.
I’r pobl sydd eisiau ceisio ar ddreifio eu peiriannau gyriant 4-olwyn, mae yna gyrsiau gwych ar gael yn agos iawn i Bala. (Landcraft Off
Road Tuition & Driving Centres) Mae’r Ganolfan Groeso (Tourist Information Centre) wedi ei leoli ar lannau Llyn Tegid gyda’r holl
wybodaeth angenrheidiol byddwch ei angen i wneud eich gweithgareddau dewisiol, neu efallai y byddwch yn dod o hyd i rai newydd
i’ch herio. Byddwn yn hapus i’ch cynorthwyo i ddod o hyd i gyrsiau ac i archebu gweithgareddau o flaen llaw. Fodd bynnag, byddem yn
ddiolchgar o gael gwybod cyn gynted a phosibl os yr ydych eisiau i ni drefnu gweithgaredd ar eich cyfer.
Stryd Fawr / High Street, Y Bala, Gwynedd, North Wales, LL23 7AB
info@yplascoch.com
01678 520309